|

Gair byr o ddiolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddigwyd ar hyd y blynyddoedd i wneud yr Ŵyl yn llwyddiant ysgubol. Diolch felly i'r lleng o gynorthwywyr fel y criw BBQ, merched y tê,tîm y siop, ein noddwyr, hysbysebwyr a Ffrindiau'r Ŵyl.
A diolch i chi, trigolion y gymuned am gefnogi'r Ŵyl bob blwyddyn. Mae'na ragen wych o ddigwyddiadau wedi'i drefnu, felly, dewch i ymuno â ni,cymerwch ran,amwynhewch Ŵyl Y Felinheli 2008.
Ras 10K Parc Y Faenol
|
|
Cliciwch ar y llun uchod am fwy o wybodaeth.
Yn anffodus ni fydd dim mwy o geisiadau yn cael eu derbyn ar gyfer y ras 10k nos Fercher nesaf gan ein bod wedi cyrraedd ein eithafswm o 300 erbyn hyn.
|
|
Ar rai fydd yn eich diddanu drwyr wythnos...
PC Leslie Wynne Un o ddigrifwyr amlycaf Cymru, Tudur Owen ‘on duty’ yn y Noson Lawen.
Tepot Piws Aduniad arbennig o un o brif fandiau y 70aua chroeso `nôl i’r Felin i Dewi Pws.
Gwyn Evans Aelod o ensemble Biwmares fydd yn rhan o’r canu cynulleidfaol.
Côr y Penrhyn Un o brif gorau Cymru yma i arwain y canu cynulleidfaol.
Howard Murray Offerynwr arbennig yn uno â Jazz Ragyn noson Cinio’r Wyl.
Frizbee Un o fandiau mwyaf poblogaidd a llwyddiannus Cymru yma yn y Noson Lawen.
Richard Synnot gyda’r band poblogaidd, y Storydogs.
I archebu tocynnau neu am unrhyw ymholiadau ynglyn a'r ŵyl
07775 670842 |
GWAHARDDIADAU PARCIO A MYNEDIAD
Mercher 2 Gorffennaf Râs 10k Lan y Môr ar gau - 6 hyd at 8pm
Sadwrn 5 Gorffennaf Gorymdaith yr ŵyl - Pen Ceunant a Lan y Môrar gau - 10am hyd at 5 yr hwyr
Gwaharddiadau mewn ambell i `Man Parcio` ar hyd yr wythnos
RHODDIR Y GWAHARDDIADAU MEWN LLE ER MWYN EICH DIOGELWCH. DIOLCH AM EICH CYDWEITHREDIAD.
System un ffordd mewn bodolaeth ar adegau prysur yn ystod yr wythnos. Trefniadau parcio arbennig ar gyfer nôs Fercher a dydd Sadwrn
Parcio i’r Anabl ar gael ger Swyddfa’r ŵyl
|