Newyddion
Newyddion Diweddaraf
Gwyl Felinheli
Mae'r flwyddyn newydd yn amser i edrych yn ôl ac i edrych ymlaen. Dros y Nadolig bu llawer o drigolion y pentref yn edrych ar nifer o luniau a fideos o ddigwyddiadau Gwyl Felin 2011 a rhai yn gallu teimlo haul tanbaid diwrnod y Carnifal. Braf a thrist oedd gweld Esyllt Vaughan Jones yn mwynhau Stwr y Dwr a'r Noson Lawen hefo Himyrs, a dweud y gwir mi oedd Es yn mwynhau bob munud o'r Wyl!
Os oes gennych funud neu ddau y gaeaf yma cymerwch daith hiraethus ond pleserus i ddyddiau braf Hâf 2011 ar www.gwylfelin.org ac efallai ystyried beth a hoffech chi a'ch ffrindiau ei wneud ar gyfer Stwr wrth y Dwr yn 2012 (neu a ddylwn ei alw'n Es-Ffest eleni?)
Ac wrth edrych ymlaen cofiwch am weithgareddau'r Pasg gyda Gwyl Y Felinheli lle bydd cyfle i blant y pentref chwilio am wyau Pasg ar gae pel-droed y pentref ac yna croesi'r ffordd at Afon Heulyn i weld os ydi eich hwyaden chi wedi ennill £100 i chi! Ond cofiwch brynu un yn gyntaf! Hyn i gyd i gychwyn am 10.30 ar fore Llun y Pasg
Gŵyl Y Felinheli - Nadolig
Noson Tân Gwyllt Ar Y Traeth
Cyfarfod Blynyddol
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Gwyl Y Felinheli ar Nos Iau Hydref 20ed, 2011 am 7.00yh
yn yr ystafell waelod yn Y Neuadd Goffa.
Gorffennaf 2011
Neges gan Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Y Felinheli
Diolch i'n cefnogwyr
Hoffai Pwyllgor Gŵyl Y Felin ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant yr
Ŵyl eleni. Mae cyfraniad pawb, boed fach neu fawr yn cael ei werthfawrogi'n aruthrol.
Diolch o galon
Islwyn Owen (Cadeirydd y Pwyllgor)
Mehefin 2011
Rhaglen 2011

Rhaglen 2011 - cliciwch yma
Dydd Llun Y Pasg yn Y Felinheli.
Yr actor Llyr Ifans yn cychwyn y ras hwyaid.
£100 i Annest, (rhif 34)
Am lluniau - cliciwch yma
Mae'r ras wedi llenwi felly mae cofrestru wedi cau.
Dydd Llun y Pasg 2011
Gwyl Y Felinheli 2011
Dyddiadau Gwyl Y Felin y flwyddyn yma Dydd Gwener Mehefin 24ain tan Diwrnod Carnifal Dydd Sadwrn Gorffennaf 2il.
Peidiwch a threfnu gwyliau yr adeg yma!!
Stwr wrth y dwr i blant ar y nos Wener y 24 ac oedolion ar nos Sadwrn y 25.
Amser heb ei drefnu eto, angen i bobl wybod digon buan i ddechra paratoi.
Cystadleuaeth i drigolion y pentref yn unig.
Cyfarfod Blynyddol
Pwyllgor
Gwyl Y Felinheli
Diolch o galon i PACT; Cwmni tacsis Chubbs a Rhianwen Gadd (A Cut Above) am noddi’r Noson Tân Gwyllt wych a gafwyd ar Nos Wener Tachwedd 5ed. Roedd cannoedd yn gwylio ar lan y môr a ‘grid-lock’ ym Moel Y Don wrth i rai slei osgoi rhoi arian yn y bwced a gwylio’r sioe ar draws y Fenai!
Yng Nghyfarfod Blynyddol Gwyl Y Felinheli a gynhaliwyd yn y Felin Sgwrsio ar Hydref 20ed Dyma oedd y prif benderfyniadau;
Islwyn Owen yn cael ei ail-ethol eto fel Cadeirydd
Christine Griffith yn cael ei ail-hethol fel Trysorydd
Judith Jones (jiwdjones@yahoo.co.uk>) yn cael ei hethol fel Ysgrifennydd
Cynhelir noson o garolau a Sion Corn ar lan y môr am 6.00 ar Nos Sul Rhagfyr 19eg. Bydd cyfle i wrando ar fand Beaumaris a chanu carolau wrth fwynhau glasiad o ‘mulled wine’ a ‘mince pie’! Croeso i bawb.
Ffrindiau Gwyl Felin
Yn dilyn lansiad grwp ‘Ffrindiau’r ŵyl’ bu i sawl un gymryd y cyfle i gyfrannu rhodd i’r ŵyl.
2012
Os hoffwch fod yn Ffrind i’r ŵyl eleni
Anfonwch siec o £25 yn daladwy i gŵyl Felin Festival gyda’ch enw, cyfeiriad, rhif ffôn neu ebost i:- Christine Griffith, Trysorydd, 17 Bryn y Môr, Y Felinheli LL56 4LY neu unrhyw aelod o’r Pŵyllgor - cliciwch yma
Felinheli.org
Am wybodaeth am Y Felinheli - newyddion, hanes, digwyddiadau
- cliciwch isod i fynd i wefan y pentref.
Albwm Lluniau
I weld mwy o luniau yr wyl cliciwch yma
| www.flickr.com |




